Novera Energy
 
RTPI

Ymweld â fferm wynt a seminar cynllunio yng Nghymru

Cynhelir seminar cynllunio Cymru gan Sefydliad Cynllunio Trefol (RTPI) Cymru, Novera Energy a Chymdeithas Ynni Gwynt Prydain (BWEA).

Sut i gyrraedd
Cynhelir y seminar yn Neuadd Bentref Adfa, sydd ger y Trallwng a'r Drenewydd. O'r fan honno, bydd gwasanaeth bws mini i'ch cludo i Fferm Wynt Mynydd Clogau i gael taith o gwmpas y safle. Mae digon o le i barcio am ddim yn y Neuadd. I weld map, edrychwch ar y ddolen ganlynol:

www.multimap.com/map/browse.cgi?lat=52.5805&lon=-3.4035&scale=25000&icon=x

Cludiant
Mae gorsaf drenau y Trallwng o fewn 20 milltir i Neuadd Bentref Adfa a Fferm Wynt Mynydd Clogau. Mae taith o tua 15 milltir o orsaf drenau y Drenewydd i Adfa. Bydd lle i barcio yn y neuadd bentref os bydd angen.

Llety
Os bydd angen llety arnoch y noson cyn y seminar, rydym yn argymell Gwesty'r Elephant & Castle yn y Drenewydd. Rhif ffôn (01686) 626271 neu Westy'r Royal Oak yn y Trallwng. Rhif ffôn: (01938 552217).

Rhaglen
Mae rhaglen y seminar isod; bydd y rhaglen derfynol ar gael ar-lein yn fuan

10:30Cofrestru a choffi
11:00Sesiwn polisi – Cyfarwyddeb Ynni Adnewyddadwy yr UE, Mesurau, targedau, rhwymedigaethau a pholisi
 BWEA – Yr angen am ynni adnewyddadwy a thargedau'r DU
 Aelod Cynulliad LlCC- prif anerchiad
 Cynrychiolydd Cynllunio (RTPI?)
 Cynrychiolydd Ynni Adnewyddadwy (Tywydd Ynni Adnewyddadwy)
12:00 – 12:30Sesiwn cwestiwn ac ateb gyda phanel ar bolisi lefel uchel (nid trafodaeth ar ynni gwynt)
12:30- 13:30Cinio
Cyflwyniad i fferm wynt
13:30- 14:30Ymweld â fferm wynt
Coffi
 Canllaw cynllunio tyrbin gwynt bach
14:30-14:50Cyflwyniad gan ddatblygwr: proses ddatblygu – Asesiad Effaith Amgylcheddol, proses gynllunio, proses ymgynghori ac ati. Cwestiwn
14.50-15.10Cyflwyniad gan Swyddog Cynllunio: proses gynllunio – ymdrin â chais ar gyfer fferm wynt
15.10–15.30Sesiwn cwestiwn ac ateb a thrafodaeth gan y panel
16:00Bysiau i'r orsaf drenau