![]() |
![]() |
|
| Home | About RenewableUK | Contact us | Media | Search | ||
Arolwg yn rhagweld twf cyflym yn sector ynni gwynt CymruGwener 21 Mai 2010
Mae RenewableUK Cymru yn paratoi y gwerthusiad proffesiynol cyntaf o fanteision economaidd y sector ynni gwynt yng Nghymru. Mae’r canlyniadau draft yn dangos bod y diwydiant ar hyn o bryd yn cyfrannu mwy na £158 miliwn i economi Cymru bob blwyddyn – llawer mwy na physgota a choedwigaeth – yn ôl The Economic Value of Wind to Wales – A Survey. Ond mae bron hanner y busnesau a ymatebodd i’r arolwg yn dweud eu bod yn disgwyl i drosiant dyfu mwy na 20% erbyn 2010. Mae’r manteision mewn ardaloedd gwledig yn arbennig o drawiadol, yn ôl y canlyniadau draft, ac mae na dystiolaeth gadarn bod y sector yn cynnig cyfleoedd gwaith arwyddocaol, a rheiny’n gofyn am sgiliau arbennig, ac yn cynnig cyflog hael. Cyflog cyfartalog y sector erbyn hyn yw £44,000 y flwyddyn. “Mae canlyniadau’r arolwg yma’n profi, unwaith ac am byth, beth yw gwir werth y sector ynni gwynt yng Nghymru,” meddai Llywelyn Rhys, pennaeth RenewableUK Cymru. “Mae’r sector yn hollbwysig i’n economi ni, yn enwedig ei gyfraniad tuag at ardaloedd gwledig. “Mae e hefyd yn sector sydd â photensial i dyfu’n gyflym iawn dros y deng mlynedd nesaf, yn enwedig gan fod Llywodraeth Cynulliad Cymru newydd gynyddu ei huchelgeision ynglyn â ynni cynaladwy. Wrth gofio ein bod ni newydd ddioddef dirwasgiad sydd wedi’n parlysu ni, mi fuasai’r twf yna yn fendith. “Mae hi’n bwysig cofio taw ynni gwynt – yn enwedig gwynt atraeth- fydd, yn y tymor byr a chanolig, yn darparu y prif hwb wrth i ni gynyddu ein cynhwysedd ynni cynaladwy.” Arad Consulting sy’n gwneud yr arolwg, ar ran RenewableUK Cymru. Mi gaiff yr arolwg ei drafod mewn manylder yng nghynhadledd flynyddol RenewableUK Cymru ar ddydd Mercher 26ain o Fai, yng Ngwesty Mercure Holland House yng Nghaerdydd. Jane Davidson AM, Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, fydd y prif siaradwraig. Mae disgwyl iddi drafod yn drylwyr Datganiad Polisi Ynni diweddar ei Llywodraeth, sy’n mynnu y dylai Cymru anelu at gynhyrchu hyd at ddwywaith cymaint o drydan ac y mae hi’n defnyddio heddiw, o ffynhonellau adnewyddadwy fel adnoddau gwynt a môr. Mi gaiff yr arolwg ei uwchlwytho ar wefan RenewableUK - www.renewable-uk.com/events/cymru-conference - yr wythnos hon. -DIWEDD- Am fwy o wybodaeth am yr arolwg neu’r gynhadledd, cysylltwch â:
NODIADAU
|